Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Rhagfyr 2019
Amser:
12.33 -
14.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5756
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Mark Isherwood AC Caroline Jones AC Leanne Wood AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Steve Bryant, Llywodraeth Cymru Steve Pomeroy, Llywodraeth Cymru Francois Samuel, Llywodraeth Cymru Clare Severn, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
· 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
· 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Huw Irranca-Davies AC; a dirprwyodd Jenny Rathbone AC ar ei ran.
· 2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
· 3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno yn amodol ar rai mân newidiadau.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
· Clare Severn, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau
· Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu
· Steve Bryant, Cynghorydd Cynorthwyol Tân ac Achub
· Steve Pomeroy, Pennaeth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub
4.2 Yn ystod y cyfarfod:
· Cynigiodd y Gweinidog i'r Dirprwy Weinidog ddiweddaru'r Pwyllgor ar y trafodaethau a gafwyd gyda'r Prif Swyddogion Tân ynghylch y camau i'w cymryd yng Nghymru ar ôl cyhoeddi’r adroddiad Cyfnod 1 ar yr Ymchwiliad i Dŵr Grenfell.
· Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o safbwynt Llywodraeth Cymru ar bob un o'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad Cyfnod 1 ar yr Ymchwiliad i Dŵr Grenfell fel y maent yn ymwneud â Chymru.
· Cytunodd y Gweinidog i rannu gyda'r Pwyllgor yr ohebiaeth a anfonwyd gan y Gweinidog Addysg at sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn nodi eu rhwymedigaethau ynghylch diogelwch tân a choladu data cywir.
· Cynigiodd y Gweinidog i roi brîff technegol i'r Pwyllgor ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch tân.
· Cytunodd y Gweinidog i rannu dogfennaeth gyda’r Pwyllgor a anfonwyd at asiantau rheoli yn dangos sut y mae'r Llywodraeth yn lledaenu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid.
· 5.1a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar eiddo gwag.
· 5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cysgu ar y stryd yng Nghymru.
· 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.